#NinGwneudTe Mor Syml a 'na.

CYNNYRCH

Ein Cynnyrch

Te Gwyrdd o Morocco - gyda mintys

Mae ein te Gwyrdd yn gyfuniad cain o de gwyrdd ifanc coeth, wedi’i gymysgu’n gampus â blas mintys pupur naturiol. Mae’n baned ffres ac adfywiol godidog y gellir ei fwynhau trwy’r dydd. Yn cynnwys 15 pyramid mewn blwch wedi’i ysbrydoli gan Ogledd Affrica

Californian Dreaming - Te Du gyda Eirin

Breuddwydio am Galiffornia ar ddiwrnod mor aeafol – ry’n ni gyd wedi teimlo felly eleni! Nod ein te Califfornia yw cau’r drws ar y byd a’r betws a gadael i’ch meddwl grwydro – gadewch iddo eich tywys yn ôl i ddegawdau di-ofal y 60au a’r 70au ar arfordir Gorllewin America – i gyd trwy baned! Yn cynnwys 15 pyramid mewn blwch paradwys syrffio retro.

Gwresogydd Y Gaeaf

Mae ein Gwresogydd y Gaeaf yn gyfuniad o de sy’n cynhesu – perffaith ar gyfer boreau rhewllyd a nosweithiau tywyll. Mae te du yn cael ei gymysgu â sbeisys a chroen sitrws gan greu cwtsh mewn mwg y mae mawr ei angen ym misoedd hir y gaeaf. Codwch ferw ar y tegell a cwtsiwch fyny gyda’r paned perffaith. Yn cynnwys 15 pyramid mewn blwch wedi’i ysbrydoli gan y gaeaf.

Delhi Decaf/Di-Gaff - Te du di-gaffein

Ein te du rhyfeddol ond heb y caffein, yw y Deli Di-gaff – yn union fel y byddech chi’n ei ddisgwyl o ddarllen y label. Yn cynnwys 15 pyramid mewn blwch a ysbrydolwyd gan yr India.

Welsh Black Tea - All Day Breakfast Tea

Our Black tea has won a bucket load of accolades including 3 stars at the Great Taste Awards. It’s a powerful mix of organic Rwanda & organic Assam tea that can be enjoyed all day. It was originally blended as an accompaniment to Cornish Pasties and Welsh Oggies. Packed with 15 pyramids in a very patriotic box celebrating all that is Welsh.