#NinGwneudTe Mor Syml a 'na.

AMDANOM NI

Amdanom ni

Yma yn Tidy Tea/Te Taclus wnawn ni ddim cyfaddawdu ar ein te anhygoel ar draul ein hamgylchedd. Credwn fod gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r genhedlaeth nesaf sy’n caru te.

Amdanom ni

Y gwir yw, mae gan ein teulu hanes o gynhyrchu diodydd chwedlonol – gellir honni i ni gael ein magu arnynt! Byddai ein Tad a’i Dad yn danfon llaeth yn syth o’n gwartheg ein hunain o gwmpas ardal Llanbedr Pont Steffan – ar yr adeg pan oedd modd ailgylchu poteli llaeth a’r fan laeth yn un drydanol!

Fel ffermwyr fuo’ fo o fyth yn fwriad dechrau ein cwmni ein hunain. Yn hytrach fe dyfodd yn naturiol o’n hangerdd o weithio gyda’r tir a chyda natur – nid yn ei erbyn, ein brwdfrydedd dros systemau cynhyrchu cynaliadwy ac wrth gwrs paned Taclus o de sy’n cynnig pris teg i’r ffermwyr.

Ychydig a wyddom mai meddwl am y syniad fyddai’r rhan hawddaf o’r gwaith! Roedden ni eisoes wedi datblygu ystod toreithiog o gymysgeddau te, pob un yn ddi-blastig ac yn rhydd o GMO- ond wedyn dechreuodd y gwaith caled… y brandio, y cynhyrchu a’r holl stwff cyfreithiol diflas – heb anghofio y wefan hon.

Rydym yn falch o’r hyn yr ydym wedi’i ddatblygu ac yn gobeithio y bydd yn creu yr un argraff ffafriol arnoch chithau.

Byddwch yn gymdeithasol ac ymunwch â ni ar ein hantur #WeDoTea/NinGwneudTe

Y Cysylltiad Teuluol

Rydym i gyd yn daer iawn dros ein Te, cymaint felly, fel bod pob aelod o’r teulu wedi cymeradwyo eu hoff flas a rhoi stamp eu hunan ar y pecynnu.

Mae ein te yn llawn mwyniant a mwynhad, dewch i ffeindio eich ffefryn!